Bydd Ymchwil OB3 yn cefnogi Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn eu gwerthusiad o brosiect 'Arfordir Gwyllt Cymru' a ariennir drwy raglen 'Ein Hamgylchedd, Ein Dyfodol' Cronfa'r Loteri Fawr.
Bydd y prosiect yn weithredol hyd 2020 a'i nod yw gwella bywydau a rhagolygon pobl ifanc yng Ngogledd Cymru trwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-19 mlwydd oed o ardaloedd arfordirol y rhanbarth i ddarganfod, deall a cymryd camau cadarnhaol i amddiffyn bywyd gwyll lleol drwy amrywiol gyfleoedd datblygu personol.
Bydd OB3 yn cefnogi'r prosiect wrth iddi sefydlu ei offer hunan-arfarnu a bydd hefyd yn cynnal gwerthusiad annibynnol i asesu pa mor briodol yw dyluniad y prosiect, asesu cynnydd a pherfformiad yn erbyn targedau a gwerthuso effaith y prosiect.