Comisiynodd Cyngor Sir Ddinbych gwmni Ymchwil OB3 mewn partneriaeth â'r economegydd, yr Athro Max Munday, i gynnal asesiad effaith economaidd o Ganolfan Gweithgareddau Dwr y Rhyl. Bydd y datblygiad arfaethedig yn cynnwys pwll hamdden 1200 metr sgwâr, wyth lôn 25m pwll nofio gyda lloriau symudol, reidiau llithren dan do ac awyr agored ac ardal chwarae dwr i blant. Byddai hefyd yn cynnal cyfleusterau dringo mewnol, ystafelloedd parti, caffi mewnol a gofod awyr agored.
Amcangyfrifir mai cyfanswm y gost buddsoddiad fydd oddeutu £17m. Roedd gwaith Ymchwil OB3 yn darparu asesiad annibynnol o gyfraniad economaidd posibl y ganolfan, er mwyn helpu llywio prosesau penderfynu y Cyngor.