Ymchwil OB3 i werthuso Graddau Sylfaen Cymru'n Un ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Mae Ymchwil OB3 wrthi'n cynnal gwerthusiad o raddau Sylfaen Cymru'n Un ar ran Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Ariannwyd y graddau sylfaen rhan-amser yn ddomestig, a'u datblygu a'u cyflwyno dros dair blynedd academaidd o 2011-12. Bydd ein hymchwil yn archwilio materion recriwtio, cynnal myfyrwyr ac effeithiolrwydd y rhaglen. Byddwn hefyd yn canolbwyntio'n benodol ar sut yr aeth y rhaglen ati i uwchsgilio'r gweithlu presennol a gwella ymwybyddiaeth yn y farchnad o'r cyfleoedd a ddarperir gan raddau sylfaen rhan-amser.