Os oes gennych chi ddiddordeb yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru, yna gallai'r adroddiad yma fod o ddiddordeb i chi.
Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan CADW, yn disgrifio canfyddiadau’r gwerthusiad diwedd prosiect y HTP, ac mae’n rhoi dadansoddiad o gyflawniadau terfynol y prosiect ac argymhellion ar gyfer gweithgaredd prosiect yn y dyfodol.
Ariannwyd yr HTP gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i nod oedd cael y gwerth economaidd gorau o dreftadaeth yng Nghymru trwy gynyddu nifer, hyd a gwerth ymweliadau â Chymru. Ymdrechodd y prosiect hefyd i agor treftadaeth Cymru i gynulleidfa ehangach trwy ei gwneud yn ddifyrrach i ymwelwyr ac i bobl sy’n byw yng Nghymru.
Mae copi o adroddiad gwerthuso OB3 i'w ganfod yma.