Rhaglen wirfoddol yw Cymunedau am Waith (CaW) i helpu’r oedolion hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Mae'r rhaglen yn targedu oedolion ddi-waith tymor hir ac oedolion economaidd anweithgar a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflogaeth addysg neu hyfforddiant. Mae hi yn gwella eu cyflogadwyedd a’u symud i mewn i, neu yn agosach, at gyflogaeth.
Gweithredir y gwerthusiad gan OB3, mewn cydweithrediad â Dateb, IES a Pobl & Gwaith, dros dri cham rhwng Hydref 2016 a mis Ionawr 2018. Mae'r cam cyntaf, sy'n ffurfio sail ar gyfer yr adroddiad hwn, yn amlinellu theori newid a'r model rhesymeg cynhenid sy'n tanllinellu CaW.
Roedd y dulliau yn cynnwys cyfweliadau gyda llunwyr polisi a rhanddeiliaid a gymerodd rhan mewn datblygu a gweithredu cynnar CaW ac ymchwil ddesg.
Mae copi o'r adroddiad ar gael yma.