Mae’r 'Rhaglen Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg' (ETT) nod o hyrwyddo effeithlonrwydd trwy dechnoleg yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru.
Apwyntiwyd OB3 gan Lywodraeth Cymru er mwyn:
- asesu'r broses o weithredu’r rhaglen
- asesu canfyddiadau am effeithiolrwydd y Rhaglen.
Ein casgliad cyffredinol ni, o’r adolygiad cynnar hwn, yw bod y Rhaglen ETT yn cynnig ymateb priodol ac ystwyth i’r angen clir am gyflymu’r broses o fabwysiadu technoleg yn y GIG yng Nghymru, er bod angen gwerthusiad pellach er mwyn asesu'r effaith. Mae'n cyd-fynd yn dda â'r ffactorau allweddol sy'n gyrru polisi yn ei flaen, a'r canfyddiad yw y bydd yn cyflawni amrywiaeth priodol o weithgareddau’n gyflym a’i fod yn gyson iawn â nodau a bwriadau gwreiddiol y rhaglen.
Gellir bwrw golwg ar yr adroddiad terfynol a'i grynodeb yma.