Dros y tair blynedd nesaf bydd Ymchwil OB3 yn darparu cymorth hunanwerthuso ac yn cynnal gwerthusiad canol tymor a therfynol o brosiect Moroedd Byw Cymru a ariennig gan y Gronfa Loteri Treftadaeth i ysbrydoli gweithredu ar gyfer treftadaeth forol yng Nghymru. Cafodd y prosiect, dan law Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a De a Gorllewin Cymru ei lansio yn ystod haf 2018, sef blwyddyn y môr yma yng Nghymru. Mae’r prosiect yn defnyddio technegau dehongli arloesol ac yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan i ddysgu am yr amgylchedd morol a’i threftadaeth, eu mwynhau, a’u hannog i gyfrannu at eu gwarchod.