OB3 i adolygu cynlluniau llesiant lleol ar ran Gofal Cymdeithasol Cymru

Apwyntiwyd Ymchwil OB3 gan Gofal Cymdeithasol Cymru i adolygu cynlluniau llesiant lleol yr ugain Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chymaru eu cynnwys gyda chynlluniau ardal rhanbarthol y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Pwrpas y dadansoddiad fydd adnabod lle mae blaenoriaethau a gweithgareddau yn cyfateb neu’n debyg ar draws y cynlluniau, er mwyn medru adnabod yr hyn sy’n cyd-blethu a’r hyn sy’n wahanol.