Ar y cyd gyda Chanolfan Astudiaethau Unigrwydd, Prifysgol Sheffield, bydd OB3 yn cynnal adolygiad o effaith unigrwydd ac unigedd cymdeithasol ar iechyd a lles ac a yw pobl sy'n profi unigrwydd / unigedd cymdeithasol yn gwneud defnydd uwch o wasanaethau cyhoeddus. Mae’r ymchwil yn bwydo i waith ehangach Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu strategaeth i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru.