OB3 i gynnal adolygiad cyflym o'r Gronfa Trawsnewid

Mae OB3 yn cynnal adolygiad cyflym i asesu lledaeniad a graddfa cynigion cymeradwy y Gronfa Trawsnewid . Bydd y gwaith yn llywio cyfathrebu ar draws strwythurau Llywodraeth Cymru, Bwrdd Ymgynghorol y Rhaglen Trawsnewid, a bydd hefyd yn cyfrannu at siapio gweithrediad pellach y Gronfa Trawsnewid yn y dyfodol.

Nod Cronfa Trawsnewid £ 100miliwn Llywodraeth Cymru yw cyflymu (ac ehangu) datblygiad modelau newydd o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a dangos eu gwerth. Mae ffocws cychwynnol y Gronfa Trawsnewid ar fodelau sy'n gwneud cynnydd cynnar o ran: sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cydredeg yn ddidrafferth; darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chymunedol lleol; a gwasanaethau a gweithgareddau atal integredig newydd.

Bydd yr adolygiad yn rhoi i Lywodraeth Cymru:

  • sylwebaeth lefel uchel a myfyrio ar sut y mae'r cynigion a gymeradwywyd yn cyd-fynd â Cymru Iachach, ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a chanllawiau'r Gronfa Trawsnewid

  • awgrymiadau ar gryfhau'r cyflenwi a'r gwerthuso.