Adolygiad o Addysg Gartref Ddewisol ar waith gan OB3

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 i gynnal adolygiad o arferion gweinyddu addysg cartref dewisol (EHE) gan awdurdodau lleol Cymru.

Nod yr adolygiad yw ymchwilio i'r arferion a'r prosesau presennol sy'n cael eu defnyddio gan awdurdodau lleol yng Nghymru i nodi plant sy'n cael eu haddysgu gartref, archwilio'r arferion sydd ar waith i asesu addasrwydd darpariaeth addysg ar gyfer plant EHE a dadansoddi'r gwariant presennol gan awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas ag EHE.

Mae'r adolygiad yn cynnwys ymweliadau â'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru a dadansoddiad o ymchwil a data yn y desg.