Bydd Ymchwil OB3 yn cynorthwyo’r cwmni cyfathrebu annibynnol, Freshwater, wrth iddyn nhw ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer cynllun SMART Innovation Llywodraeth Cymru.
Mae SMART Innovation yn darparu rhaglen integredig o gymorth i fusnesau yng Nghymru ac wedi'i chynllunio i gyflawni'r blaenoriaethau yn strategaeth arloesi Cymru a rhaglen Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd, sy'n pwysleisio pwysigrwydd arbenigo a chlystyru .
Bydd OB3 yn ymgymryd â dadansoddiad pen desg o’r farchnad posibl ar gyfer y rhaglen ac yn trefnu a hwyluso cyfres o grwpiau ffocws er mwyn casglu mewnwelediadau gan gwsmeriaid.