Mae Ymchwil OB3 yn falch o fod yn cefnogi Miller Research i gyflwyno hwyluso, dadansoddi ac adrodd nol ar ganfyddiadau gweithdai fel rhan o ddigwyddiadau ymgynghori Llywodraeth Cymru ar y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Daeth Deddf Tribiwnlys ADY a Thribiwnlys Addysg Cymru 2018 yn Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018. Fel y nodwyd yn y Ddeddf, mae'n rhaid i Gymru gyflwyno fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY. Cyhoeddwyd y Cod ADY drafft ym mis Rhagfyr 2018 ac mae'n ffocws cyfres o wyth digwyddiad ymgynghori yn ystod mis Chwefror, ledled Cymru.