Comisiynwyd OB3 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (dan nawdd Llywodraeth Cymru) i gynnal ymchwil ymysg pobl ifanc 14-21 oed i ganfod eu barn a’u canfyddiadau o astudio’r Gymraeg fel pwnc. Er mwyn cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae angen cynyddu nifer y bobl ifanc mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog, a sicrhau fod cynydd yn nifer yr athrawon sy’n gallu addysgu’r Gymraeg a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn benodol hefyd mae yna her i fynd i’r afael â hi o ran cynyddu’r nifer sy’n astudio’r Gymraeg fel Safon Uwch er mwyn gallu bwydo adrannau Cymraeg y prifysgolion, a gweithlu’r dyfodol. Bydd y Gwaith ymchwil hwn yn galluogi Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid i gynllunio a bwrw ymlaen gyda chamau gweithredu ar sail tystiolaeth gyfredol.