Penodwyd Ymchwil OB3 gan Gyngor y Gweithlu Addysg (EWC) i ymgymryd ag ymchwil i 'gymhellion hyfforddi athrawon', gan gymharu Cymru a Lloegr er mwyn llywio datblygiad polisi Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymchwil yn ceisio:
archwilio'r berthynas rhwng cynlluniau cymhellion yng Nghymru a Lloegr, ac effaith y rhain ar recriwtio i addysg gychwynnol athrawon (ITE) yn y ddwy wlad
nodi patrymau cymhelliant a recriwtio dros y blynyddoedd diweddar er mwyn canfod a oes perthnasoedd cyd-berthynol
herio'r micro-naratifau ar lefelau sefydliadol a gwleidyddol ynghylch effaith cystadleuaeth rhwng y ddwy wlad.