OB3 i gynnal adolygiad o drefniadau comisiynu EOTAS gan awdurdodau lleol

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi OB3 Research i gynnal adolygiad o drefniadau comisiynu awdurdodau lleol ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS).

Nod yr adolygiad yw casglu tystiolaeth gan bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru a bydd yn ystyried eu modelau presennol, eu harferion a'u prosesau sicrhau / rheoli ansawdd. Bydd hefyd yn edrych ar brosesau comisiynu a chyflwyno darpariaeth allanol, gan asesu rhinweddau ac anfanteision prosesau cyfredol. Bydd yr adolygiad yn gwneud argymhellion ar gyfer model arfer gorau cenedlaethol.