Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) wedi penodi Ymchwil OB3 i asesu cynnydd y Timau Ymgysylltu Rhanbarthol (RETs) yn eu hamcan o sicrhau bod manteisio i'r eithaf ar gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Mae'r gwerthusiad hefyd yn gyfrifol am ddarparu argymhellion ar gyfer gweithgareddau RET ar gyfer y dyfodol, ac ar gyfer dulliau ymgysylltu rhanbarthol ar ôl Brexit (h.y. ar ôl cyfnod ariannu 2014-2020).