Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru wedi comisiynu OB3 Research i ymchwilio i bartneriaeth myfyrwyr yng Nghymru. Bydd y gwaith yn ystyried y diffiniad a'r ymagweddau at bartneriaeth myfyrwyr yn y sectorau AU ac AB; asesu effeithiolrwydd partneriaethau myfyrwyr presennol; amlygu arfer gorau ac arloesol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth rhwng y sefydliadau a'r corff myfyrwyr. Disgwylir i'r adroddiad terfynol wneud argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer datblygu gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru.