Penodwyd Ymchwil OB3 i adolygu model ariannu a chyflenwi JISC ar gyfer ôl 16 oed yng Nghymru. Mae copi o'r crynodeb gweithredol ar gael yma.
Mae'r adolygiad wedi argymell bod y model ariannu cyfredol (dyfarniad grant blynyddol i JISC gan Lywodraeth Cymru) yn cael ei gynnal. Nodwyd mai'r model hwn oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn.
Cynigiodd Ymchwil OB3 gyfanswm o 11 o argymhellion; gan gynnwys pum argymhelliad strategol, a chwech ar lefel fwy gweithredol. Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod yr argymhellion hyn gyda JISC yn ystod y misoedd nesaf, ac yn creu cynllun gweithredu ar y cyd.