Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Ymchwil OB3 i baratoi adroddiad sy'n cyfuno'r ymatebion a gafwyd fel rhan o'r ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd rhwng Ionawr ac Ebrill 2019 ar ddatblygu Cerrig Milltir arfaethedig i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol (Cymru) 2015: 'Sut ydym yn helpu Gweinidogion Cymru i fesur cynnydd cenedl?'
Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am sylwadau ar set gerrig milltir cenedlaethol ar gyfer mesur datblygiad Cymru yn eu herbyn. Bwriad y cerrig milltir cenedlaethol ar gyfer Cymru yw helpu Gweinidogion i asesu'r cynnydd a wnaed tuag at sicrhau Cymru lewyrchus, wydn, fwy cyfartal ac iachach, gyda chymunedau cydlynus, diwylliant bywiog a iaith Gymraeg ffyniannus a chyfrifoldeb byd-eang Cymru. Y rhain yw'r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Bydd Ymchwil OB3 yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn cynnig dadansoddiad annibynnol a theg o safbwyntiau, gan nodi'r materion allweddol sy'n gysylltiedig â themâu penodol o fewn yr ymgynghoriad.