Rhaglen a ariennir ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) yw’r gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith (IWS) sy’n cael ei redeg gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (ABMU) a Strategaeth Dinal y Rhyl (RCS). Nod y gwasanaeth yw lleihau absenoliaeth a phresenoliaeth oherwydd salwch yn y gweithle trwy gynorthwyo unigolion i gytrchu’n gyflym therapiau corfforol a/neu seicolegol â ffocws ar waith.
Bu OB3 yn cynnal gwerthusiad o’r gwasanaeth. Amcanion y gwerthusiad oedd:
asesu a chymharu’r cynllun mewn dau faes, ar gyfer cyfranogwyr sy’n absennol a’r rheini sy’n bresennol ond na allant weithio’n effeithiol (‘presenoliaeth’)
asesu a chymharu’r cynllun mewn dau faes, ar gyfer gweithwyr proffesiynol, cyflogwyr, meddygon teulu a sefydliadau rhanddeiliaid lleol eraill
asesu a chymharu’r modd y rheolir prosiect mewn dau faes
asesu’r effaith ganfyddiedig a pha mor ddefnyddiol yw’r gwasanaethau a ddarperir.
Mae copi o’r adroddiad ar gael yma.