Apwyntiwyd Ymchwil OB3, ar y cyd gyda Chanolfan Astudiaethau Unigrwydd, Prifysgol Sheffield, gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o fecanweithiau allweddol mewn arferion sy’n pontio’r cenedlaethau, gan ystyried pa mor effeithiol ydynt o ran lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
Y canfyddiadau allweddol oedd:
Gellir ystyried arferion sy’n pontio'r cenedlaethau fel continwwm o gyswllt rhwng cenedlaethau gwahanol. Mae’namrywio o ymyriadau lefel isel megis digwyddiadau un tro, hyd at ymyrraethau lefel uchel lle mae gweithgareddau yn cael eu sefydlu mewn lleoliadau cymunedol.
Mae perthynas rhwng ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd, a ffactorau amrywiol eraill yn ymwneud â llesiant.
Mae’r astudiaethau achos yn dangos bod gwaith i bontio’r cenedlaethau yn gwneud mwy i leihau ynysigrwydd cymdeithasol (diffyg cysylltiadau cymdeithasol) nag unigrwydd (canfyddiad o ynysigrwydd)
Nodir galluogwyr amrywiol sy’n cyfrannu at arferion pontio’r cenedlaethau sy’n gweithio’n dda (e.e. arweinydd â gweledigaeth, persbectif pendant). Nodwyd hefyd rwystrau sy’n llesteirio gweithredu (e.e. amser, cynllunio, logisteg).
Gall arferion sy’n pontio’r cenedlaethau gynnig llawer o fanteision i bobl o wahanol oedran. Ni ddylai arferion o’r fath ganolbwyntio ar y manteision i bobl hŷn yn unig. Yn hytrach dylai ganolbwyntio argymunedau cyfan a phobl o bob oed.
Gwelwyd bod y manteision yn wahanol rhwng tri phrif grŵp oedran (plant/pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn). Er enghraifft, roedd lleihad mewn lefelau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Roedd gwelliant mewn iechyd (meddwl a chorfforol) a llesiant ymysg oedolion a phobl hŷn. Dywedodd plant a phobl ifanc fod gwelliant yn eu hyder a gwybodaeth.
Mae rhai is-grwpiau yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn arferion sy’n pontio’r cenedlaethau nag eraill (menywod o’u cymharu â dynion). Er bod rhai arferion yn targedu cynulleidfaoedd penodol, mae’n anoddach cael rhai is-grwpiau i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath.
Roedd manteision o arferion sy'n pontio'r cenedlaethau ar lefel y gymuned, megis gwell cysylltiadau ac ymdeimlad cryfach o berthyn.
Gellir gweld copi o’r adroddiad llawn yma.