Penodwyd Ymchwil OB3, ar y cyd â’r Sefydliad Rhagoriaeth Gofal Cymdeithasol (SCIE), gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o Gronfa Drawsnewid ‘Cymru Iachach’.
Pwrpas y Gronfa Drawsnewid gwerth £100m yw cyflymu datblygiad a chynyddu modelau newydd o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol a dangos eu gwerth. Mae pob un o'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (RPBs) wedi cyflwyno cynigion i'r Gronfa sy'n canolbwyntio ar fodelau a all wneud cynnydd cynnar ar:
aliniad di-dor gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol;
darparu iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chymunedol lleol; a
gwasanaethau a gweithgareddau atal integredig newydd.
Bydd y gwerthusiad tair blynedd yn gwerthuso i ba raddau y mae'r Gronfa Drawsnewid wedi cyflymu ffyrdd newydd o weithio i ddisodli neu ail-ffurfweddu'r gwasanaethau presennol. Bydd hefyd yn ceisio nodi cydrannau modelau newydd sydd wedi galluogi mabwysiadu'n llwyddiannus neu ehangu'r ffyrdd newydd hyn o weithio.