Ystyried dichonoldeb darpariaeth dwyieithog Prifysgol De Cymru

Penodwyd Ymchwil OB3 gan BRifysgol De Cymru i ymgymryd ag astudiaeth dichonoldeb i ddatblygiad darpariaeth dwyieithog ar draws ei rhaglenni israddedig. Mae'r ymchwil wedi cynnwys dadansoddiad o ddata a gwybodaeth, cyfweliadau gyda staff a chyfres o grwpiau ffocws gyda myfyrwyr a darpar-fyfyrwyr posibl. Casglodd arolwg ar-lein farn bron i 300 o fyfyrwyr cyfredol. Bu ymchwilwyr OB3 yn gweithio'n agos gyda dau intern ymroddedig yn y Brifysgol, gan eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau ymchwil cymdeithasol, a'u harwain trwy amrywiol dasgau'r briff ymchwil.