Gwerthuso addysg gychwynnol i athrawon (cyfrwng Cymraeg)

Penodwyd OB3 ar y cyd gydag Arad a Dateb i ymgymryd â gwerthusiad o'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Addysg Gychwynnol i Athrawon. Mae;r gwaith yn cynnwys adolygiad desg o ddogfennaeth strategol a gweithredol, cyfweld ystod o gyfranwyr gan gynnwys athrawon dan hyfforddiant cyfredol, athrawon sydd wedi bod yn dysgu am hyd at bum mlynedd, cydlynwyr hyfforddiant athrawon mewn ysgolion, mentoriaid a chynrychiolwyr o bob canolfan addysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Bydd y gwerthusiad yn darparu tystiolaeth i hysbysu proses diwygio Addysg Gychwynnol i Athrawon sy'n digwydd ar hyn o bryd.