OB3 yn asesu dichonolrwydd datblygiad darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae OB3 wedi'i benodi i asesu dichonoldeb datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn pedair ysgol benodol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r ymchwil ar y gweill ar hyn o bryd, gydag ymchwilwyr OB3 yn trafod yr opsiynau amrywiol gyda staff a myfyrwyr ar gyfer yr Ysgol Ddeintyddiaeth, yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, yr Ysgol Biowyddorau a'r Ysgol Beirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd.