Ymchwil OB3 yn edrych ar astudio tramor gan fyfyrwyr sy'n hanu o Gymru

Mae OB3, ar y cyd â WISERD, wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i gynnal astudiaeth gwmpasu i astudio israddedig dramor ymhlith myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru.
Nod yr astudiaeth ymchwil yw darparu tystiolaeth i gefnogi datblygiad peilot Astudiaeth Dramor. Amcanion penodol yr ymchwil yw:
• Adolygu'r nifer gyfredol o fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru sy'n astudio dramor
• Adolygu arfer byd-eang ar gyfer ariannu cynlluniau symudedd allanol
• Adolygu'r darpariaethau ariannu cyfredol yng Nghymru a thramor, a nodi unrhyw fylchau neu gorgyffwrdd mewn cyllid
• Datblygu a gwerthuso opsiynau a gwneud argymhellion ar gyfer cynllun peilot