OB3 i gynnal gwerthusiad o Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)

Bydd Ymchwil OB3 ar y cyd â Dateb, Pobl & Gwaith ac Athrofa Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn ymgymryd â gwerthusiad o Rieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE) - ymyriad allweddol yn y farchnad lafur a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ac a ariennir ar y cyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Nod prosiect PaCE yw helpu gwella rhagolygon cyflogaeth rhieni lle mae gofal plant yn brif rwystr i gael mynediad at hyfforddiant neu gyfleoedd gwaith. Bydd y gwerthusiad yn ymchwilio i weithredu cyfredol PaCE yn erbyn y model theori newid sy'n tanategu'r rhaglen; asesu'r gwahaniaethau rhwng gweithrediadau Blaenoriaeth 1 a Blaenoriaeth 3; asesu ei heffeithiolrwydd wrth helpu rhieni dros 25 oed i gyflawni cyflogaeth gynaliadwy ac asesu ei heffeithiolrwydd wrth leihau nifer y rhieni ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt yn ymwneud ag addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.