Comisiynwyd Ymchwil OB3 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnal ymchwil ymysg myfyrwyr yn y sectorau Addysg Bellach (AB) a Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW).
Bwriad yr ymchwil yw datblygu dealltwriaeth fanwl o agweddau dysgwyr tuag at dderbyn addysg yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog. Bydd canfyddiadau'r ymchwil yn cael eu defnyddiol fel sail i gynllunio datblygiad darpariaeth Cymraeg a dwyieithog yn y sectorau hyn, ac hefyd yn sail i ymgyrchoedd marchnata a fydd yn ceisio denu myfyrwyr at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg/dwyieithog.