Ar ddiwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur polisi - Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit - fel cam cyntaf yn y broses o lunio ffordd newydd o fuddsoddi a datblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru. Yn dilyn hyn, cynhaliwyd cyfres o weithgareddau ymgysylltu er mwyn casglu barn rhanddeiliaid am y syniadau a'r cynigion yn y papur.
OB3 fu'n gyfrifol am ddadansoddi'r ymatebion a gasglwyd, ac mae dogfen wedi ei chyhoeddi nawr sy'n crynhoi hyn olll yn Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit - Adroddiad Ymgysylltu.