Mae Cymunedau am Waith yn raglen sy'n edrych i gefnogi oedolion di-waith tymor hir, oedolion economaidd anweithgar a phobl 16-24 oed nad ydynt mewn cyflgoaeth, addysg neu hyfforddiant. Fe'i ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a'r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Arweiniodd OB3 ar ei gwerthusiad, dros dri cham rhwng Hydref 2016 a Mehefin 2018. Mae'r trydydd adroddiad bellach ar gael yma - sy'n asesu deilliannau'r rhaglen hyd yma, a'r effeithiau sy'n dechrau dod i'r amlwg.