Yn ystod hanner cyntaf 2018 bu OB3 yn gweithio ar astudiaeth pennu cwmpas er mwyn darparu tystiolaeth i gefnogi datblygiad peilot astudio tramor, mewn ymateb i un o argymhellion Adolygiad Diamond o Addysg Uwch yng Nghymru.
Amcanion yr ymchwil oedd i:
- adolygu niferoedd presennol o fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio dramor
- ymgymryd ag adolygiad llenyddiaeth o arferion ariannu cynlluniau symudedd allanol ledled y byd
- archwilio nodweddion myfyrwyr sy'n astudio dramor a'r rhai sy'n anelu at wneud
- archwilio rhwystrau a manteision astudio dramor
- adolygu’r ddarpariaeth cyllido bresennol yng Nghymru a thramor
- datblygu ac arfarnu opsiynau a gwneud argymhellion ar gyfer bwrw ymlaen â’r peilot
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r adroddiad heddiw, ac mae copi ar gael yma.