Ymgymrodd OB3, mewn partneriaeth ag Arad a Dateb, ag adolygiad manwl o’r gefnogaeth a ddarperir i ddatblygu addysgu cyfrwng Cymraeg o fewn Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).
Mae canfyddiadau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:
Bu dirywiad cyffredinol yn nifer hyfforddeion AGA sy'n cymryd rhan mewn darpariaeth AGA uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar, er gwaethaf ymdrechion darparwr AGA.
Bod mwyafrif yr athrawon dan hyfforddiant a'r athrawon newydd a gyfrannodd at y gwerthusiad eisoes wedi penderfynu ymgymryd â darpariaeth AGA cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ar y cwrs ac ychydig iawn a oedd yn ymwybodol o'r cymhelliad ariannol a oedd ar gael drwy'r Cynllun Gwella Cyfrwng Cymraeg cyn cofrestru ar y cwrs.
Mae darpariaeth AGA sy’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn wahanol ar draws darparwyr AGA.
Bod darparwyr AGA yn ei chael hi'n anodd cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg oherwydd y nifer fach o hyfforddeion AGA sydd wedi'u cofrestru yn eu sefydliad a'r diffyg sgiliau Cymraeg ymysg y staff.
Ystyrir bod gwersi Cymraeg (gloywi iaith) yn chwarae rhan arwyddocaol yn y broses o wella sgiliau iaith hyfforddeion ond nid yw hyn bob amser yn cael ei adlewyrchu yn y data asesu.
Y cafwyd adborth cadarnhaol lle roedd yr hyfforddeion wedi cael darpariaeth sgiliau iaith a oedd yn fwy gwahaniaethol.
Bod lleoliadau mewn ysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu a gwella sgiliau addysgu cyfrwng Cymraeg hyfforddeion a barnwyd bod rôl y mentoriaid iaith yn gwneud cyfraniad pwysig at hyn.
Mae'r adroddiad yn cloi gyda nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru i ystyried, mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Mae'n ystyried pum mater allweddol:
y gostyngiad parhaus yn nifer y darpar hyfforddeion a'r anawsterau sy'n gysylltiedig â recriwtio i AGA cyfrwng Cymraeg
natur gymhleth a darniog y ddarpariaeth bresennol a'r angen i symleiddio a datblygu mwy o gysondeb ar draws AGA cyfrwng Cymraeg
yr angen i gynyddu capasiti Cymraeg darpariaeth uwchradd AGA ac ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer cydweithio agosach rhwng darparwyr ac ysgolion
gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o gymhelliant ariannol i ddenu hyfforddeion a chadw athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
yr angen i ystyried cyfleoedd parhaus i athrawon newydd ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a'u dealltwriaeth a'u gwybodaeth am addysgeg mewn perthynas â gwahanol leoliadau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.
Am gopi llawn o’r adroddiad, cliciwch yma.