Mae Llywodraeth Cymru wedi apwyntio Hatch Regeneris ac OB3 i ymgymryd â gwerthusiad o Safleoedd Cyflogaeth Strategol (SES).
Cynlluniwyd SES i ddarparu seilwaith sylfaenol (ar ffyrdd, draeniau a gwasanaethau cyfleustodau ar y safle ac oddi ar y safle) ac i ymgymryd â’r gwaith o baratoi pedwar safle strategol yng Nghymru sy’n cynnwys Tŷ Du, Nelson (Caerffili), Brocastle (Pen-y-bont ar Ogwr), Bryn Cefni (Llangefni) a Dwyrain Cross Hands (Sir Gaerfyrddin)
Y nod yw sicrhau bod gan Gymru rwydwaith o safleoedd o safon uchel sy’n barod i’w datblygu i danategu ymdrechion buddsoddi mewnol Cymru i ddenu prosiectau symudol, yn enwedig mewn sectorau â gwerth ychwanegol yn ogystal â busnesau cynhenid. Rhan ariennir y cynllun gan arian ERDF.