Penodwyd OB3 gan HEFCW i gynnal adolygiad ansoddol o ddarpariaeth ran-amser mewn darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru.
Nod yr adolygiad yw ‘nodi ac adolygu cyflwr presennol pob dull o ddarpariaeth ran-amser, gan gynnwys sut y cânt eu hariannu o fewn addysg uwch yng Nghymru’.
Disgwylir y bydd yr adolygiad yn llywio argymhellion a gyflwynir i Gyngor HEFCW ynghylch sut y dylid ariannu darpariaeth ran-amser yn y dyfodol.
Gellir crynhoi amcanion penodol yr adolygiad fel a ganlyn:
• Adolygu darpariaeth ran-amser yng Nghymru, gan nodi buddion economaidd a chymdeithasol
• Nodi ac adrodd ar heriau sy'n effeithio ar ddatblygiad ac ehangu darpariaeth AU ran-amser
• Penderfynu a yw darpariaeth ran-amser, ac i ba raddau, wedi ymateb yn llwyddiannus i anghenion galwedigaethol ac economaidd addysg uwch ranbarthol a lleol
• Penderfynu pa effaith y mae dull HEFCW o ariannu darpariaeth AU ran-amser wedi'i chael ar ddatblygiad y ddarpariaeth hon
• Ystyried sut mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â darpariaeth ran-amser mewn addysg uwch yn elwa o argaeledd y ddarpariaeth hon
• Adolygu tystiolaeth a allai gyfiawnhau datrysiad mwy radical i gymell ymgysylltiad â darpariaeth ran-amser
• Ystyried dadansoddiad meintiol HEFCW o ran ymgysylltiad gwahaniaethol myfyrwyr â nodweddion gwarchodedig neu grwpiau eraill heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n ymgysylltu â darpariaeth ran-amser yn hytrach na darpariaeth amser llawn.
• Adolygu a yw datblygu darpariaeth addysg uwch ran-amser wedi hyrwyddo ehangu mynediad i addysg uwch neu wedi arwain at uwchsgilio uwch
• Ystyried sut y gall HEFCW gymell twf yn y maes hwn, gan gydnabod rhesymau dros anghymhellion
• Ystyried unrhyw rwystrau i weld a yw darpariaeth addysg uwch ran-amser yn diwallu anghenion unigolion o ran cyflwyno, gwybodaeth a dilyniant
• Cynnig argymhellion i HEFCW ar gyfer dulliau posibl o ariannu darpariaeth ran-amser yn y dyfodol
• Nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth AU ran-amser ac ystyried sut y gellid mynd i'r afael â'r rhain
• Cyflwyno canlyniadau'r adolygiad mewn cyfarfod HEFCW.
Disgwylir cynnal yr ymchwil rhwng Tachwedd 2019 a Chwefror 2020.