Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Hatch Regeneris mewn partneriaeth â OB3 i gynnal gwerthusiad o'r Gronfa Seilwaith Eiddo (PIF) a Rhaglenni Grant Datblygu Busnes Eiddo (PBDG). Mae'r Rhaglenni yn weithrediadau ar y cyd a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ac maent yn debyg eu natur, gyda'r nod o ddarparu adeiladau busnes o ansawdd uchel naill ai trwy ddatblygiad hapfasnachol newydd neu adnewyddu'r stoc bresennol.
Nod cyffredinol y contract yw darparu proses ar y cyd a gwerthuso effaith y Rhaglenni. Bydd y gwerthusiad yn asesu llwyddiant y Rhaglenni yn erbyn eu hallbynnau a'u hamcanion cyflawni datganedig, ac yn mesur canlyniadau ac effaith.
Mwy o newyddion