Comisiynwyd OB3 gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o’i haelodaeth o Raglen Cyswllt Diwydiannol Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT-ILP) dros gyfnod o bum mlynedd rhwng 2019 a 2024.
Roedd Llywodraeth Cymru am adolygu a oedd wedi sicrhau gwerth am arian o’i buddsoddiad dros y pum mlynedd diwethaf i’r rhaglen a gwneud penderfyniad ynghylch ei hymwneud parhaus â MIT-ILP, yn enwedig yng ngoleuni’r amgylchedd cyllidol heriol presennol. Nod y gwerthusiad oedd archwilio'r effeithiau ar Gymru o gymryd rhan yn yr MIT-ILP. Roedd hyn yn cynnwys yr effaith ar fusnesau Cymreig a gymerodd ran a’r effeithiau ehangach a welwyd gan randdeiliaid ecosystem entrepreneuriaeth.
Disgwyliwyd i’r gwerthusiad ystyried:
ymwybyddiaeth o'r MIT-ILP a chymhelliant i gymryd rhan
natur y cyfranogiad gwerth ac effeithiau cyfranogiad, gan gynnwys y gwahaniaeth a wneir i:
datblygu arweinyddiaeth a newid diwylliannol
arloesi busnes (intrapreneuriaeth) a dilysu
cynaliadwyedd a/neu dwf busnes.
Mabwysiadodd y gwerthusiad, a gynhaliwyd rhwng Tachwedd 2023 a Chwefror 2024, ddull cymysg i gynnwys adolygiad desg, arolwg ar-lein a chyfweliadau manwl gyda chynrychiolwyr o’r gymuned fusnes a’r ecosystem entrepreneuraidd ehangach.