Mae Ymchwil B3, mewn cydweithrediad ag Elevate a Dateb, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o waith craidd Chwarae Teg rhwng 2014 a 2020.
Amcanion yr adolygiad yw:
Adolygu a yw'r gwasanaethau a ddarperir gan Chwarae Teg a pha mor dda y mae arian craidd gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Cyflogadwyedd, y Cynllun Gweithredu Economaidd, Deddf Lles Cenhedlaeth y Dyfodol, a tharged Cymraeg 2050.
Adolygu'r sector y mae Chwarae Teg ynddi a nodi sefydliadau eraill sy’n cyflawni / anelu at gyflawni amcanion.
Asesu perfformiad Chwarae Teg yn erbyn ei nodau a'i amcanion datganedig ar gyfer y cyfnod dan sylw (2014-2020), gan gynnwys adolygiad o'r rhwystrau a wynebwyd, p'un a gafodd y rhain eu goresgyn a sut.
Asesu, lle bo hynny'n bosibl, sut mae Chwarae Teg wedi cyfrannu at gynorthwyo siaradwyr Cymraeg trwy eu rhaglenni.
Gwneud argymhellion ar y data sydd i'w gasglu er mwyn cynnal unrhyw fath o werthuso yn y dyfodol
Gwneud argymhellion ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol yn seiliedig ar wersi a ddysgwyd o'r adolygiad.