Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Ymchwil OB3, ar y cyd â Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) ym Mhrifysgol De Cymru, i gynnal gwerthusiad o ochr refeniw'r Gronfa Gofal Integredig (ICF).
Mae'r ICF yn rhaglen ataliol sy'n gyrru integreiddiad iechyd, gofal cymdeithasol a thai ymlaen i wella bywydau pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Nod prosiectau a gwasanaethau a ariennir gan yr ICF yw gwneud gwell defnydd o adnoddau trwy weithio ar y cyd a defnyddio modelau cyflenwi amgen. Mae'n canolbwyntio ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir yn y cartref neu'n agos ato.
Bydd gwerthuso'r ICF yn edrych yn ôl ar effaith y rhaglen ers ei chyflwyno a bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio i helpu i lywio penderfyniadau cyllido yn y dyfodol.