Penodwyd Freshwater, ar y cyd ag Ymchwil OB3, i gynnal Ymgysylltiad Gweledigaeth 2050 ar gyfer Adnoddau Naturiol Cymru. Y bwriad yw ysgogi trafodaeth genedlaethol yng Nghymru ar yr amgylchedd naturiol a helpu i ddatblygu, yng ngoleuni'r pwysau presennol a'r heriau yn y dyfodol, gyfeiriad tymor hir i'r amgylchedd naturiol y gall pawb yng Nghymru weithio tuag ato ar y cyd.
Bydd OB3 yn gweithio ochr yn ochr â Freshwater ar y camau ymgysylltu ac ymgynghori ar-lein gyda’r cyhoedd a rhanddeiliaid a byddwn yn cynnal cyfres o weithdy ymgysylltu gan ddefnyddio offer a thechnegau cynllunio i’r dyfodol. Byddwn yn darparu adroddiadau synthesis i'r cleient yn amlinellu'r canfyddiadau allweddol ar bob cam o'r broses datblygu gweledigaeth.
Mwy o newyddion