Bydd OB3 yn cefnogi IFF Research i gynnal ymchwil i lywio dull integredig o wella canlyniadau addysgol i blant sy'n derbyn gofal.
Nod yr ymchwil, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yw cynorthwyo llunwyr polisi i lunio cyfeiriad polisi yn y dyfodol ar gyfer cefnogi plant sy'n derbyn gofal mewn addysg, er mwyn sicrhau cydgysylltiad cefnogaeth, a gwella canlyniadau addysgol. Bydd yr ymchwil yn penderfynu sut y gellid gweithredu model ysgolion rhithwir Cymreig newydd, ac effaith cyflwyno'r model newydd.
Bydd OB3 yn ymgymryd â rhywfaint o'r ymchwil sylfaenol sy'n gysylltiedig â'r gwaith, gan gynnwys cyfweliadau ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ledled Cymru.
Mwy o newyddion