Mae Ymchwil OB3, ar y cyd â Phartneriaeth BRO, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal y gwerthusiad o'r grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles (ENRaW).
Mae ENRaW yn cefnogi prosiectau a fydd yn gwneud gwelliannau mewn ac o amgylch ardaloedd preswyl (y lleoedd lle mae pobl yn byw) trwy sicrhau buddion i bobl, busnesau a'u cymunedau.
Bydd y gwerthusiad yn anelu at asesu a yw'r rhaglen a’r prosiectau a ariennir ganddi wedi cyflawni'r nodau a'r amcanion ac yn ystyried pa mor effeithiol y bu'r cynllun grant fel mecanwaith ar gyfer cyflawni yn erbyn blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwerthusiad yn rhedeg rhwng Medi 2021 a Hydref 2023.
Mwy o newyddion