Mae OB3 Research wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal asesiad annibynnol o’r cyllid craidd a ddarparwyd i Ganolfan Cydweithredol Cymru (WCC) a Cwmnïau Cymdeithasol Cymru (SFW) rhwng 2017-22 a’r cyllid a ddarperir ar gyfer yr Academi Mentrau Cymdeithasol (SEA) ar gyfer 2019-22. Nod yr adolygiad yw ystyried
Canolfan Cydweithredol Cymru a Cwmniau Cymdeithasol Cymru
A yw'r amcanion wedi'u cyflawni ac a ydynt yn dal yn berthnasol?
A yw Llywodraeth Cymru wedi cael gwerth am arian am y buddsoddiad cyllidol?
Gwneud argymhellion ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru barhau i roi cyllid craidd i WCC a SFW i gefnogi’r gwaith strategol o gyflawni ymrwymiadau Rhaglen Weithredu Llywodraeth Cymru
Academi Mentrau Cymdeithasol
A yw'r amcanion wedi'u cyflawni ac a ydynt yn dal yn berthnasol?
A yw Llywodraeth Cymru wedi cael gwerth am arian am y buddsoddiad cyllidol?
Gwneud argymhellion ynghylch a ddylai Llywodraeth Cymru barhau i ariannu’r Academi Menter Gymdeithasol i gefnogi’r gwaith strategol o gyflawni ymrwymiad Rhaglen Weithredu Llywodraeth Cymru.
Bydd yr adolygiad yn ystyried y gwersi a ddysgwyd ac argymhellion ar gyfer unrhyw gyllid craidd posibl yn y dyfodol.