Comisiynwyd Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad â Phartneriaeth BRO, gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o weithrediad y ddyletswydd bioamrywiaeth adran 6.
Mae Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 wedi rhoi Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau ar waith ar gyfer awdurdodau cyhoeddus (dyletswydd adran 6 neu a6). Mae dyletswydd adran 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, i'r graddau y maent yn gyson ag arfer y swyddogaethau hynny yn iawn.
Er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd mae'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ymgorffori'r ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu gweithgareddau, polisïau, cynlluniau, rhaglenni a phrosiectau o ddydd i ddydd. Mae ymgorffori bioamrywiaeth ar y lefel gorfforaethol yn allweddol i hyn, lle dylai meddwl a chynllunio cynnar geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth trwy arfer eu swyddogaethau.
Nodau'r gwerthusiad yw:
sefydlu i ba raddau y mae'r ddyletswydd adran 6 wedi'i gweithredu / cydymffurfio â hi yn ystod y tair blynedd gyntaf, trwy gynhyrchu cynlluniau ac adroddiadau, a / neu drwy brif ffrydio gweithredu ar draws sefydliadau
ymchwilio i'r galluogwyr a'r rhwystrau i'w weithredu
sefydlu i ba raddau y mae'r canllawiau a ddarparwyd wedi bod yn ddefnyddiol, wedi'u dilyn, a pha ganllawiau a / neu gefnogaeth bellach y gellid eu darparu.