Datganiad cenhadaeth

Mae llunio polisi craff yn dechrau gydag ymchwil gadarn. Ers ein sefydlu yn 2000, mae ein cleientiaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector wedi dibynnu arnom i ddarparu mewnwelediadau cadarn sydd wedi eu gwreiddio mewn dadansoddiad cadarn ac wedi'i deilwra'n bwrpasol - gan eu helpu i lunio penderfyniadau polisi sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.  

Rydym yn fusnes cwbl ddwyieithog gyda dealltwriaeth ddofn o fyd polisi Cymru. Rydym yn gweithio ar draws ystod eang o sectorau – o addysg, cyflogaeth a sgiliau i'r amgylchedd a newid hinsawdd, ac o iechyd a lles, i’r economi ac adfywio. 

Rydym yn gynaliadwy, yn foesegol ac yn seiberddiogel, ac wedi ymrwymo'n gryf i amrywiaeth a chydraddoldeb. Ein nod yw dylunio ymchwil sy'n rhoi cyfle i bob unigolyn wneud cyfraniad.

Mae ein model busnes yn hyblyg ac yn flaengar, sy’n cyfuno dulliau ymchwil profedig gydag arloesedd digidol. Mae'n ddull sy'n ein helpu i gydweithio'n effeithiol, gan ystyried yr arbenigedd cywir ar gyfer pob prosiect unigol. 

Rydym yn falch o fod wedi ein lleoli yng Nghymru – ac yn angerddol am roi rhywbeth yn ôl i'n cymuned a'n heconomi, gan ddwyn effaith gadarnhaol ar ddyfodol ein cenedl.


Ein gwerthoedd

Ansawdd. Rydym yn cyflwyno ein canfyddiadau ar sail dadansoddiad trylwyr a chadarn o’r dystiolaeth, gan ddarparu mewnwelediadau ag iddynt werth gwirioneddol

Effaith. Rydym yn darparu argymhellion pragmatig a defnyddiol. Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth, gan sicrhau newid cymdeithasol go iawn. 

Gonestrwydd. Rydym yn meithrin perthynas gref. Rydym yn ddibynadwy ac yn gallu delio â chomisiynau proffil uchel neu wleidyddol sensitif. 

Hyblygrwydd. Rydym yn teilwra ein ffordd o fynd ati gyda phob prosiect unigol yn ofalus, gan gydweithredu’n agos a chynhyrchiol gydag arbenigwyr. 

Esblygiad. Rydym yn flaengar –yn datblygu rhwydweithiau a sgiliau newydd yn barhaus er mwyn gwella ein gwasanaethau