Rydym yn ymateb i anghenion ein cleientiaid, a byddwn bob amser yn ceisio darparu atebion pwrpasol i unrhyw ofynion ymchwil, gwerthuso neu adolygu
Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau gan gynnwys:
dylunio a gweithredu methodolegau ymchwil a gwerthuso
ymgymryd ag adolygiadau polisi a llenyddiaeth
cyflawni gwaith maes ansoddol gan gynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws a hwyluso gweithdai
cyflawni ymchwil meintiol gan gynnwys holiaduron ar-lein a dros y ffôn
dadansoddi data, ystadegau, tystiolaeth ansoddol ac ymatebion ymgynghoriadau
cynnig cyngor technegol ar gyfer hunan-werthuso neu ddatblygu fframweithiau gwerthuso
cynnal gwerthusiadau ffurfiannol a chrynodol ac ymchwil annibynnol
Rydym yn brofiadol iawn mewn paratoi adroddiadau i safonau a chanllawiau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR).