Cyfarwyddwyr
Ymunodd Nia gyda OB3 yn 2007 ac mae ganddi dros bymtheng mlynedd o brofiad fel ymchwilydd cymdeithasol. Mae ganddi gefndir ymgynghorol cryf ac mae wedi arwain ar ystod eang o gomisiynau ymchwil a gwerthuso ar gyfer cleientiaid yng Nghymru. Mae hi wedi cyfarwyddo nifer o astudiaethau gwerthuso sydd wedi mabwysiadu theori newid, dulliau gwerthuso ffurfiannol a chrynodol.
Nia Bryer
Cyfarwyddwr / Perchennog
nia@ob3research.co.uk
07792 609821
Mae Heledd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ac yn darparu ymchwil, gwerthuso ac arbenigedd ymgynghorol ar draws ystod o feysydd polisi gan gynnwys addysg, sgiliau ac iechyd. Bu Heledd gynt yn gweithio fel Uwch-ddarlithydd Busnes a Rheolaeth, gan arbenigo mewn ymddygiad sefydliadol, ac roedd hi’n un o'r penodiadau academaidd cyntaf i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Heledd Bebb
Cyfarwyddwr / Perchennog
heledd@ob3research.co.uk
07815 772242
Ymgynghorwyr Cysylltiol
Mae Carys yn ymchwilydd profiadol iawn, ar ôl cyfnod hir fel Pennaeth Mewnwelediad a Data, a Phennaeth Ymchwil yn S4C, ac yn Rheolwr Ymchwil Darlledu yn ITV Cymru. Mae Carys wedi gweithio ar ystod o brosiectau fel ymchwilydd llawrydd ers 2019 gan gynnwys ymchwil ar batrymau defnydd o’r cyfryngau ymhlith pobl ifanc, gwaith maes ar werthusiad ynghylch datgarboneiddio ac anghenion hyfforddi sero-net.
Mae gan Carys radd BSc Econ dosbarth cyntaf mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Bangor. Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hi wedi cyfrannu at nifer o astudiaethau ymchwil a gwerthuso ar gyfer Ymchwil OB3, gan gynnwys gwerthusiadau o gynllun Twristiaeth Wledig Cymru Gyfan a chynllun ENRaW.
Mae Tanwen yn ymchwilydd, gwerthuswr a dadansoddwr profiadol gyda phrofiad sylweddol mewn ymchwil cymdeithasol dulliau cymysg gan weithio gyda chleientiaid yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat. Treuliodd Tanwen saith mlynedd yn rheoli prosiectau ymchwil a gwerthuso ar draws sawl maes polisi gan gynnwys addysg, sgiliau, diwylliant a threftadaeth ar gyfer ymgynghoriaeth ymchwil a gwerthuso adnabyddus.
Mae hi hefyd wedi gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru fel swyddog cyfnewid gwybodaeth a swyddog cymorth archwilio perfformiad. Mae gan Tanwen MA Gwleidyddiaeth Ryngwladol ac Ewrop (Rhagoriaeth) o Brifysgol Warwick ac MA (Cantab) Hanes o Brifysgol Caergrawnt. Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae Tanwen wedi cyfrannu at nifer o brosiectau ymchwil a gwerthuso gydag OB3 yn ddiweddar gan gynnwys dadansoddiad o ymatebion i Strategaeth Rheoli Tybaco Cymru a gwerthusiad y Gronfa Trawsnewid ar gyfer Llyfrgelloedd, Archifau ac Amgueddfeydd.
Mae Gwilym yn ymchwilydd profiadol ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Bu Gwilym yn ddarlithydd a chymrawd ymchwil yn adran addysg a datblygiad dynol Prifysgol Bangor am dros ddeng mlynedd. Bu hefyd yn gynorthwyydd ymchwil yn y ganolfan ymchwil yn ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Bangor. Mae hefyd wedi bod ar secondiad fel uwch swyddog ymchwil yn Llywodraeth Cymru.
Mae ganddo MA mewn Ymchwil Gymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol (Prifysgol Bangor) ac mae'n aelod o'r Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol a Chymdeithas Ymchwil Addysg Prydain. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl. Mae Gwilym wedi gweithio gydag OB3 yn ddiweddar ar sawl prosiect gwahanol gan gynnwys gwerthuso’r Gronfa Gofal Integredig, Sgwrs Genedlaethol Natur a Ni ac ymchwil i agweddau myfyrwyr at astudio yn y Gymraeg.
Mae Val yn gweithio I Sylfaen Cymunedol Cyfyngedig–- menter gymdeithasol datblygu cymunedol sy'n datblygu prosiectau arloesol i ymateb i anghenion cymunedol. Mae hi’n cydlynu gwaith y cwmni ac yn gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso yn ogystal â hyfforddiant datblygu cymunedol a datblygu prosiectau newydd.
Cyn hynny bu Val yn gweithio gyda Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd ac mewn amryw o rolau yn y sector gwirfoddol gyda Chymorth i Fenywod yn y Rhyl a Chymdeithas y Plant.
Mae gan Val BA (Anrh) mewn Cymdeithaseg o Brifysgol Bangor a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Datblygiad Cymunedol. Mae hi’n siarad Cymraeg yn rhugl. Mae prosiectau diweddar gydag OB3 yn cynnwys gwerthusiadau Cymunedau ar Waith a’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS).
Mae Einir yn Gyfarwyddwr Dateb Cyf ac mae wedi gweithio'n helaeth gydag OB3 ers 2002, gan gyfrannu at a rheoli aseiniadau gwerthuso ac ymchwil ar draws meysydd datblygu economaidd a chymdeithasol, addysg a hyfforddiant.
Cyn sefydlu Dateb a gweithio gydag OB3, bu Einir yn gweithio mewn swyddi uwch-reoli gydag ELWa, TEC y Canolbarth a TEC Powys. Cyflawnodd amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys cyfarwyddwr rhanbarthol, pennaeth strategaeth a pholisi a phennaeth cyllid ac, felly, mae ganddi wybodaeth 'ymarferol' da ynghych datblygu polisi, cynnal rhaglenni a materion gweithredol. Dechreuodd Einir ei gyrfa mewn gwasanaethau ariannol a gweithiodd am bedair blynedd fel cyfrifydd cwmni yn y sector preifat.
Mae gan Einir radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) ac mae’n aelod o Gymdeithas Gwerthuso y DU. Yn fwyaf diweddar mae Einir wedi gweithio gydag OB3 ar werthusiadau o PaCE, Cymunedau ar Waith a’r Gronfa Drawsnewid.
Mae Angharad yn gyfwelydd profiadol, yn hwylusydd ac yn gynllunydd busnes. Hi yw perchennog busnes Aim High Business a chyd-sylfaenydd 4Ivy.
Cyn hynny treuliodd bedair blynedd fel Rheolwr Hwb ar gyfer Business in Focus yng Nghaerfyrddin lle bu’n cynnig cymorth rheoli cyfrifon ac yn rhoi cyngor busnes i fusnesau bach a chanolig ar draws y rhanbarth. Mae ganddi hefyd dros ddegawd o brofiad fel swyddog datblygu busnes i Gyngor Sir Caerfyrddin.
Graddiodd Angharad o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda BA (Anrh.) mewn Busnes a Gwybodeg. Mae hi'n siarad Cymraeg yn rhugl. Yn ddiweddar, cefnogodd Angharad OB3 ar waith ymgysylltu â gweledigaeth Natur a Ni 2050 (CNC).
Ers cyd-sefydlu BRO yn 2015, mae Rob wedi bod yn ymwneud ag ystod eang o brosiectau, gan ddefnyddio ei brofiad helaeth a’i frwdfrydedd dros ddatblygu a sefydlu polisïau a phrosiectau sy’n gwneud Cymru yn lle gwell i bawb. Dechreuodd gyrfa gynnar Rob ar Ynys Môn, i ddechrau fel swyddog rheoli arfordirol yr ynys ac yn y pen draw daeth yn Brif Swyddog dros faterion cefn gwlad ac arfordirol.
Gadawodd Gyngor Bwrdeistref Ynys Môn gan fod Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) newydd ei ffurfio ddechrau’r 90au cynnar a dechreuodd ar yrfa 20 mlynedd sy'n cynnwys cyfnodau fel Pennaeth Grŵp ar gyfer tirwedd, mynediad, hamdden, cyfathrebu a dehongli.
Cafodd Rob hefyd gyfnod o dair blynedd ym Mrwsel lle cafodd ei secondio i Ganolfan Ewropeaidd Cymru. Mae Rob wedi cydweithio gydag OB3 ar sawl prosiect yn ddiweddar gan gynnwys gwerthusiadau o Barc Rhanbarthol y Cymoedd a’r gwasanaeth natur cenedlaethol.
Cyn cyd-sefydlu BRO, bu Sue yn gweithio yn Cyfoeth Naturiol Cymru lle, am wyth mlynedd, bu’n Rheolwr Rhaglen ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru, a agorodd yn llwyddiannus ar amser yn 2012. Cipiodd tîm Llwybr yr Arfordir ‘Gwobr Tîm y Flwyddyn’ a Gwobr Cymru yng ngwobrau Creu Lleoedd 2014, yn dilyn ennill Cwpan Jiwbilî Arian RTPI yn 2013. Bu hefyd yn rhedeg rhaglen ariannu cynllun gwella hawliau tramwy am nifer o flynyddoedd pan gafodd ei sefydlu gyntaf.
Dechreuodd Sue ei gyrfa fel swyddog cynllunio yn nghyngor sir Bro Morgannwg lle roedd ei chyfrifoldebau’n cynnwys ysgrifennu polisi a chyngor cynllunio seiliedig ar yr amgylchedd ar ffurf canllawiau cynllunio atodol. Mae Sue yn cydweithio yn gyson gydag OB3 gan gynnwys gwerthusiadau diweddar o’r SMS a’r cynlllun Gwarchodwyr.