Ymchwil OB3 ar y cyd gyda WIHSC yn cynnal adolygiad o'r gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg

Mae Ymchwil OB3, mewn cydweithrediad ag Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC) yn cynnal adolygiad o'r gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg (ETT), ar ran Llywodraeth Cymru.

Bwriad y rhaglen £10m ETT yw cyflymu'r broses o arddangos, gwerthuso a mabwysiadu cynnyrch neu wasanaethau newydd, a'u rhoi ar waith, gan gynyddu effeithlonrwydd a darparu gwell canlyniadau i gleifion yn unol ag egwyddorion gofal iechyd doeth.

Bydd ein hadolygiad yn asesu prosesau gweithredu'r Rhaglen, canfyddiadau ynghylch ei effeithiolrwydd hyd yma ac yn gwneud argymhellion i gefnogi gwerthusiad o effaith y rhaglen dros y tymor hwy.