Ymchwil OB3 ar y cyd â Regeneris Consulting i werthuso Sêr Cymru II

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu OB3 mewn partneriaeth â Regeneris Consulting i gynnal gwerthusiadau cychwyn cyntaf a thymor canol annibynnol ar y fenter Sêr Cymru II.

Mae'r rhaglen Ser Cymru II yn anelu at gefnogi datblygiad rhagoriaeth ymchwil yng Nghymru trwy ddenu unigolion dawnus ym maes gwyddoniaeth i swyddi ycmhwil yng Nghymru. Mae'n canolbwyntio ar recriwtio cymrodyr ymchwil yn y meysydd 'her mawreddog' sef gwyddorau bywyd ac iechyd, peirianneg uwch a deunyddiau a charbon isel, ynni a'r amgylchedd a'r pynciau STEMM cysylltiedig sy'n ffurfio conglfaen Strategaeth Arbenigo Smart Cymru.  Mae £60 miliwn wedi ei ymrwymo i'r rhaglen gan gynnwys arian o gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, er mwyn cryfhau capasiti grwpiau ymchwil prifysgolion blaengar Cymru.