Ymchwil OB3 yn paratoi astudiaeth dichonolrwydd i Brifysgol Abertawe

Comisiynwyd OB3 yn ystod yr Haf i ymgymryd â darn o waith i ystyried dichonolrwydd sefydlu neu ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn dau faes penodol - y Biowyddorau a Seicoleg -  ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r gwaith yn cynnwys trafod gydag aelodau staff perthnasol, grwpiau ffocws mewn ysgolion uwchradd a chyda myfyrwyr presennol.